jkhxdfhgfchgvjbn

Cael eich ysbrydoli

Gyrfaoedd Nyrsio a Bydwreigiaeth
Fel Nyrs neu Fydwraig yng Nghymru, gallech ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yr ydych chi wedi bod yn chwilio amdano. P'un a ydych newydd gymhwyso neu rydych chi wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd, gall symud i Gymru eich helpu i wneud y mwyaf o’ch gyrfa a'ch bywyd.

Gyrfaoedd meddygol
Manteisiwch ar y cyfle i barhau â thraddodiadau’r GIG yng ngwlad ei eni, i weithio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf gyda chefnogaeth gwych a dylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Gyrfaoedd Fferylliaeth
Mae gan Gymru ymdeimlad cryf o gymuned, tai fforddiadwy, ysgolion gwych a llawer o ffyrdd i ymlacio a mwynhau. Mae Cymru yn lle hawdd i sefydlu eich bywyd, p'un a ydych chi'n dod â'ch teulu neu ar eich pen eich hun.

Gyrfaoedd deintyddol
Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i’ch helpu chi i lunio’ch gyrfa fel y dymunwch. Mae'r Ddeoniaeth Ddeintyddol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy'n cwmpasu pob maes o ddeintyddiaeth, ac yn cynnwys efelychu deintyddol (ymarferol), diwrnodau astudio traddodiadol a chynadleddau.